D'wed a gaf fi
wel'd dysgleirdeb,
D'wyneb bra', Iesu da,
Draw yn nhrag'wyddoldeb?
D'wed i mi, a ga'i deyrnasu,
'Draw i'r bedd, byth mewn hedd,
Gydâ'm hanwyl Iesu?
D'wed a ga'i y gwyrddlas balmwydd
Coron wen, ar fy mhen,
I'w gwisgo yn dragywydd?
A ga'i fyn'd heibio uffern danllyd,
Yn dy law, heb ddim braw,
Mewn i dir y bywyd?
Os ca'i bythol wel'd dy wyneb
Dysglaer hardd, fy enaid chwardd,
Draw yn nhrag'wyddoldeb.
Hiraeth sy' ar fy nghalon dyner,
Wel'd y dydd, fyn'd yn rhydd,
Maes o'm poen a'm blinder.
Gwynfyd a f'ai heddyw'n cânu
'Mhlith y llu, sanctaidd fry,
Sydd wedi gorchfygu.
William Williams 1717-91Aleluia 1749 Tôn [MH 8888]: Havant (<1811) gwelir: Deffro f'enaid deffro'n ufudd Iesu 'Mrenin mawr a 'Mhrïod |
Tell, shall I shall get
to see the radiance,
Of thy lovely face, good Jesus,
Yonder in eternity?
Tell me, shall I get to reign,
Beyond the grave, forever in peace,
With my beloved Jesus?
Tell, shall I get the green palms
A white crown, on my head,
To wear eternally?
Shall I get to go past fiery hell,
In thy hand, without any terror,
In the land of life?
If I get to see forever thy beautiful,
Shining face, my soul shall laugh,
Yonder in eternity?
Longing there is upon my tender heart,
To see the day, to go free,
Out of my pain and my grief.
Blessed would be today singing
Amongst the throng, sacred above,
Who have overcome.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|